Gwasanaethau 2024 Dydd Sul 21 Ebrill - Pasg IV 8.00am Y Cymun Bendigaid 10.30am Y Cymun Bendigaid ar gân ac Ysgol Sul 6.00pm Yr Hwyrol Weddi a Phregeth Dydd Mercher 24 Ebrill 10.30am Y Cymun Bendigaid Dydd Sul 28 Ebrill - Pasg VI 10.30am Y Foreol Weddi a Festri'r Pasg 6.00pm Gwasanaeth Teirieithog - Cymraeg, Cernyweg a Llydaweg Dydd Mercher 1 Mai 10.30am Y Cymun Bendigaid |
Pasg IV - Iesu'r Bugail Da
Ioan 10. 11-18
Myfi yw'r bugail da. Y mae'r bugail da yn rhoi ei einioes dros y defaid. Y mae'r gwas cyflog, nad yw'n fugail nac yn berchen y defaid, yn gweld y blaidd yn dod ac yn gadael y defaid ac yn ffoi; ac y mae'r blaidd yn eu hysglyfio ac yn eu gyrru ar chwâl. Y mae'n ffoi am mai gwas cyflog yw, ac am nad oes ofal arno am y defaid. Myfi yw'r bugail da; yr wyf yn adnabod fy nefaid, a'm defaid yn f'adnabod i, yn union fel y mae'r Tad yn f'adnabod i, a minnau'n adnabod y Tad. Ac yr wyf yn rhoi fy einioes dros y defaid. Y mae gennyf ddefaid eraill hefyd, nad ydynt yn perthyn i'r gorlan hon. Rhaid imi ddod â'r rheini i mewn, ac fe wrandawant ar fy llais. Yna bydd un praidd ac un bugail. Y mae'r Tad yn fy ngharu i oherwydd fy mod yn rhoi fy einioes, i'w derbyn eilwaith. Nid yw neb yn ei dwyn oddi arnaf, ond myfi ohonof fy hun sy'n ei rhoi. Y mae gennyf hawl i'w rhoi, ac y mae gennyf hawl i'w derbyn eilwaith. Hyn a gefais yn orchymyn gan fy Nhad." Y Colect. Hollalluog Dduw, dy Fab Iesu Grist yw’r atgyfodiad a’r bywyd: cyfoda ni, sy’n ymddiried ynddo ef, o farwolaeth pechod i fywyd cyfiawnder, fel y ceisiwn y pethau hynny sydd uchod lle y mae ef yn teyrnasu gyda thi yn undod yr Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr a hyd byth. Amen. Y bugail mwyn o'r nef a ddaeth i lawr, I geisio'i braidd trwy'r erchyll anial mawr; Ei fywyd roes yn aberth yn eu lle, A'u crwydrad hwy ddialwyd arno fe. O'm crwydrad o baradwys daeth i'm hôl, Yn dirion iawn fe'm cludodd yn ei gôl; Nid oes a ŵyr ond ef, y bugail mawr, Ba faint fy nghrwydro o hynny hyd yn awr. Â'i hyfryd lais fe'm harwain yn y blaen, Cydymaith ydyw yn y dŵr a'r tân; Rhag pob rhyw ddrwg, yn nyffryn angau du, Pwy arall fydd yn nodded i myfi? David Charles, Caerfyrddin. Emynau'r Llan 346 |