Crynodeb: Asesiad Risg Tân 2021
Yr Adeilad
Y Gegin
Y Boeler Gwresogi
Canhwyllau
Yn Ymarferol
Pwysig: Mae’r Crynodeb uchod yn seiliedig ar Our Fire risk assessment a baratowyd gan Ecclesiastical cwmni yswiriant yr eglwys.
- Mae’r sustem trydanol yn cael ei archwilio’n flynyddol ac mae’r holl declynnau trydanol yn cael eu profi (PAT) gyda thrydanwyr cymwysedig.
- Mae’r nwy a’r sustem gwresogi yn cael ei archwilio yn flynyddol.
- Mae’r diffoddwyr tân yn cael eu archwilio a’u profi yn flynyddol.
- Mae’r gludwyr mellt yn cael eu archwilio a’u profi yn flynyddol. Gwnaethpwyd cryn dipyn o waith iddynt 2017 gan Chubb Fire a Security Ltd.
- Mae allanfeydd tân yn cael eu cadw’n glir o rhwystrau ac mae’r drysau yn gallu cael eu hagor yn hawdd.
- Does gennym ddim goleuadau argyfwng, ac fe ddylwn ystyried osod tortsh yng nghefn yr eglwys ac yn y neuadd.
- Does gennym ni ddim alarwn tân yn yr adeilad.
Y Gegin
- Mae’r ffwrn yn drydanol ac mae diffoddwr tân addas yn y gegin.
Y Boeler Gwresogi
- Nwy yw’r boeler, ac mae’n cael ei archwilio’n flynyddol gan Geoff Tremlett.
Canhwyllau
- Defnyddir canhwyllau ym mhob gwasanaeth. Defnyddir canwyllbrennau addas a chadarn i ddal y canhwyllau. Cyfrifoldeb yr un a oleuodd y canhwyllau yw eu diffodd yn syth ar ôl pob gwasanaeth.
Yn Ymarferol
- Mae’n bwysig i groesawyr/wardeniaid fod yn ymwybodol o unrhyw un yn yr adeilad sydd ag unrhyw anhawster symud/ anabledd rhag ofn y bydd angen rhoi cymorth iddo/iddi wrth wacau yr adeilad mewn argyfwng.
- Yn ymarferol mewn gwasanaeth ar y Sul, petai argyfwng tân, y Ficer bydd yn cyhoeddi i bawb adael yr adeilad ac ymgynnull wrth y blwch post sydd yn y Cilgant.
- Y Ficer, wardeniaid a’r croesawyr fydd yn gyfrifol am wacau yr adeilad mewn argyfwng tân
- Arweinwyr yr ysgol Sul fydd yn gyfrifol am dywys y plant o’r Ysgol Sul.
Pwysig: Mae’r Crynodeb uchod yn seiliedig ar Our Fire risk assessment a baratowyd gan Ecclesiastical cwmni yswiriant yr eglwys.