Yr Wythnos Fawr a'r Pasg 2019
“O’r Grog waedlyd y daeth gwaredigaeth i’r byd.
Bugail Cadarn yw Crist, ei anrhydedd ni dderfydd”.
Daw’r geiriau hyn o hen gerdd Gymraeg sy’n mynd yn ôl ymhellach na’r Drydedd Ganrif ar Ddeg. (Llyfr Du Caerfyrddin). Mae’n gerdd a ysgrifennwyd i foli Duw’r Gwaredwr, ac yn ganolog i’r gerdd mae gwaith achubol Iesu Grist ar y groes. Er holl erchyllterau’r ‘grog waedlyd’ a ddioddefodd Iesu, mae’r awdur yn cyflwyno inni ddarlun o Iesu Grist fel yr arwr gorchfygol. Yr arwr a aeth i’r groes i frwydro’n wrol dros y ddynoliaeth yn erbyn galluoedd pechod a drygioni, a chyfodi o’r bedd yn fuddugoliaethus, wedi’u trechu hwy oll. Nid drygioni’r ddynoliaeth sy’n cael y gair olaf ar y groes ond cariad Duw yng Nghrist Iesu.
Buddugoliaeth yw gwir thema y gerdd hon. Buddugoliaeth Iesu sy’n dwyn gwaredigaeth i’r ddynolryw a’r greadigaeth o afael yr hyn sy’n eu difwyno, eu dibrisio ac yn dirmygu delw’r Duw byw ynom ni ac ôl ei law yn ei gread. Trwy ein ffydd ym muddugoliaeth Iesu, adferir delw Duw ynom a chawn ein croesawu a chydrannu yn ei wledd dragwyddol.
Mae’r Pasg, yn flynyddol, yn ein galw ni i ganolbwyntio ar y groes a’r bedd gwag ac ar Iesu y bugail cadarn. Y bugail sydd â’i ofal yn fawr drosom, ei ffordd yw cyfiawnder a gwirionedd ac wrth ei ganlyn fe gawn ein tywys ar hyd ffordd tangnefedd.
Ymunwch â ni dros yr Wythnos Fawr a’r Pasg i dreiddio i ddirgelwch marwolaeth ac atgyfodiad Iesu, ein Bugail cadarn, “ei anrhydedd ni dderfydd”.
Pob Bendith y Pasg,
Y Parchedig Dyfrig Lloyd (Ficer)
GWASANAETHAU'R WYTHNOS FAWR A'R PASG

Rhagor o Eira - Gwyn fy myd!!
Dydd Sul 18 Mawrth 2018
Golygfa o brif borth yr Eglwys
Gŵyl Ddewi 2018: Gwyn-fydedig!
Eleni, ar Ŵyl Ddewi, fe orchuddiwyd y ddinas â thrwch o eira purwyn.
Cynhaliwyd ein gwasanaethau i ddathlu Gŵyl ein Nawddsant er gwaethaf yr eira!

EDS: Eglwys Ddiogel
Yng nghyfarfod o’r Cyngor Plwyfol Eglwysig ym mis Chwefror 2018, fe wnaeth y cyngor ail-ymrwymo yr eglwys i bolisi Diogelu yr Eglwys yng Nghymru. Mae’r polisi hwn yn sicrhau ein bod ni fel eglwys yn darparu “amgylchedd cenhadu a gweinidogaethu diogel, hapus a chefnogol” i bawb sy’n dod trwy ddrws yr eglwys, ond yn enwedig i blant, pobl ifanc ac oedolion bregus. Cofiwn geiriau’r Iesu, “Gadewch i’r plant ddod ataf fi a pheidiwch â’u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas nefoedd yn perthyn”. Mathew 19:14
|
Er mwyn bod yn Eglwys Ddiogelu, y mae EDS yn ymrwymo i’r canlynol:
Mae’r polisi llawn i’w weld ar yr hysbysfwrdd yn neuadd yr eglwys.
- sicrhau bod holl weithwyr yr eglwys, boed yn ordeiniedig neu’n lleyg, p’un ai ydynt yn gyflogedig neu’n wirfoddolwyr, yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn deg wrth drin plant, pobl ifanc ac oedolion bregus; sicrhau bod eu swyddi o ymddiriedaeth yn cael eu diogelu ac nad ydynt yn manteisio ar y rhai o dan eu gofal.
- sicrhau bod holl weithwyr yr eglwys yn addas i weithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion bregus.
- sicrhau bod addoliad cyhoeddus, digwyddiadau a gweithgareddau o bob math yn cael eu trefnu a’u darparu i safon uchel, gan roi ystyriaeth i anghenion penodol plant, pobl ifanc ac oedolion bregus.
- sicrhau bod gofal bugeiliol o bob math yn cael ei ddarparu mewn ffordd ddiogel.
- sicrhau bod pryderon, cwynion neu gyhuddiadau o bob math yn cael eu trin yn unol â’r gyfraith ac arferion gorau.
- sicrhau bod pobl sydd wedi cael eu cam-drin yn cael eu cefnogi’n ddiogel gan gymuned yr eglwys.
- sicrhau bod troseddwyr yn cael eu trin yn deg.
- parhau i adolygu ein polisi a’n gweithdrefnau.
Mae’r polisi llawn i’w weld ar yr hysbysfwrdd yn neuadd yr eglwys.
Cyflwyno Elw'r Ŵyl Flodau i gynrychiolydd o Marie Curie
Nos Fercher 30 Awst 2017
Edrych yn ôl dros 60mlynedd!
Gŵyl Cyflwyniad Eglwys Dewi Sant
Dathlu 60mlwyddiant yn y Cilgant
Dydd Sul 6 Tachwedd 2016
Dathlu 60mlwyddiant yn y Cilgant
Dydd Sul 6 Tachwedd 2016
Gorymdaith y Côr o amgylch y Cilgant
gyda’r Parchedig Ganon Rosser yn arwain.
Gwasanaeth Ailgysegru Eglwys Dewi Sant
Gŵyl yr Holl Saint 1956.

At aelodau Eglwys Dewi Sant
Adeg Dathliadau 2016.
Diolch i chi am gadw drws yr eglwys ar agor dros y trigain mlynedd hyn:
ar agor i bererinion y brifddinas i ddrachtio’n
ddwfn o ffynnon y dŵr bywiol;
ar agor i’r ffyddloniaid ac i’r mynychwyr llai
cyson i gael cwrdd â’i gilydd ac â Duw;
ar agor i bechaduriaid glywed gair o ollyngdod i’w
hailgyfeirio ar hyd ffordd arall;
ar agor i’r teulu bach sy’n ymaelodi yng nghorff
Crist trwy’r bedydd;
ar agor i gymunwyr gael rhagflas o’r wledd nefol;
ar agor i barau llawn cyffro ofyn am fendith ar eu huniad;
ar agor i deuluoedd yn eu galar sy’n dyheu am air
o gysur i ddeffro egin gobaith yn y galon;
ar agor i Gymry Gymraeg y ddinas a’r dalaith yn
ogystal â’r di-Gymraeg o bedwar ban byd;
ar agor i gyfarchiad y Gair a wnaethpwyd yn
gnawd i’n galluogi i fyw’r Newyddion Da yn y byd.
Parhewch i gadw’r drws ar agor a chadw’r
ffynnon rhag y baw.
+ Saunders Davies - (cyn Ficer EDS ac Esgob Bangor)

Llun ar ôl y gwasanaeth dathlu
Cyn aelodau Côr yr Eglwys
Gwibdaith EDS i Eglwys y Carcharorion yn Henllan
18 Awst 2016
Cafwyd gwibdaith hyfryd iawn pan aeth llond bws ohonom i ymweld ag Eglwys y Carcharorion yn Henllan. Profiad trawiadol oedd cerdded i mewn i hen gwt o adeilad di-nod o’r tu allan a chamu i mewn i eglwys Babyddol wedi’i haddurno’n hynod o hardd â murluniau a chelfyddwaith cain a grëwyd gan y carcharorion Eidalaidd. Cawsom hanes y gwersyll a’r carcharorion gan y perchennog, Jim Thompson a John Meirion Jones. Fe lwyddodd y ddau i ddod â hanes y lle yn fyw i ni. Ar ôl gwasanaeth byr yn yr eglwys, aethom am ginio Eidalaidd blasus iawn yn La Calabria. Diolch yn fawr i Gwenda Williams a Brynmor Jones am drefnu ac arwain y wibdaith. Cafwyd diwrnod hamddenol a hwyliog dros ben ac edrychwn ymlaen at yr un nesaf. Y Ficer.
Cawsom ni groeso cynnes i hen wersyll y Carcharorion yn Henllan gan John Meirion Jones
Y Fynedfa ddi-nod i'r trysor anghredadwy
Mr Jim Thompson a Mr John Meirion Jones yn rhoi inni'r hanes am yr eglwys hynod hon
Pererinion EDS ar bererindod yr Esgobaeth i Walsingham
Gorffennaf 2016
Gorffennaf 2016
Y pererinion gyda'r Parchedig Rhun ap Robert, curad Llanafan.
Rhian yn Gweinyddu'r Cymun Bendigaid am y tro cyntaf
yn Eglwys St Ioan Fedyddiwr
ar Ŵyl St Thomas 2016
Tafwyl 2016
Am y tro cyntaf mae gan Gyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd pabell yn Tafwyl.
Gweinyddiad Cyntaf y Parchedig Rhian Linecar o'r Cymun Bendigaid
26 Mehefin
Mae gennym ni Offeiriad newydd yn ein plith
Gwasanaeth Ordinasiwn y Parchedig Rhian Linecar
Dydd Sadwrn 25 Mehefin 2016
Eglwys Gadeiriol Llandaf
Llongyfarchiadau i'r Parchedig Rhian Linecar ar ei hordinasiwn heddiw. Yn y llun: Y Parchedig Dyfrig Lloyd, y Parchedig Rhian Linecar a'r Parchedig Ganon Sarah Rowland Jones. Mae Rhian yn gurad ar y cyd yn Eglwys Dewi Sant ac Eglwys St Ioan Fedyddiwr canol y ddinas.
Cyngerdd 60Mlwyddiant EDS
yng nghwmni
"Ffrindiau"
Hyfrydwch o’r mwyaf oedd cael croesawu parti canu “Ffrindiau”, o gyffiniau Tregaron i arwain ein cyngerdd dathlu. Cafwyd noson o adloniant Cymraeg a Chymreig, gyda chanu gwefreiddiol a llefaru gafaelgar.
Diolch o ganol i’r Ffrindiau am gynnal cyngerdd a noson gofiadwy. Nos Sadwrn 18 Mehefin.

Y Parti "Ffrindiau"
Bronwen Morgan yn llefaru
Deuawd
Noson o ddiddanwch pur a digonedd o chwerthin
Unawd Cyril Evans
Diolch i Irfon Bennett am y lluniau
Gwasanaeth Ailgysegru Eglwys Dewi Sant
Dathlu 60Mlwyddiant yr Eglwys yn yr Adeilad presennol
Gŵyl Ddewi 2016

Tyrd, O Arglwydd, i mewn i’r Tŷ hwn, a sefydla yng nghalonnau dy ffyddlon bobl breswylfa dragwyddol i ti dy hun, fel y bo i’r Eglwys hon a adeiladwyd ac a adferwyd i’th ogoniant ar gyfer Cymry’r Brifddinas, i addoli Duw yn yr iaith Gymraeg, ac i goffáu dy was Dewi, gael ei gogoneddu a’i hadnewyddu hefyd gan dy bresenoldeb parhaus, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Tangnefedd fyddo i’r Tŷ hwn oddi wrth Dduw ein Tad nefol.
Tangnefedd fyddo i’r Tŷ hwn oddi wrth ei Fab ef, yr hwn yw ein tangnefedd.
Tangnefedd fyddo i’r Tŷ hwn oddi wrth yr Ysbryd Glân y Diddanydd.
O Geidwad bendigedig, yr hwn yn nyddiau dy weinidogaeth ddaearol, a anrhydeddaist gysegr-wyliau dy genedl â’th rasol bresenoldeb; bydd yn bresennol gyda ninnau heddiw; a chan mai sancteiddrwydd a weddai i’th Dŷ, sancteiddia ni, fel y byddom yn demlau byw, sanctaidd a chymeradwy gennyt ti; ac felly preswylia yn ein calonnau trwy ffydd, a meddianna ein heneidiau gan dy ras, fel y gallwn ymroi bob amser yn ddefosiynol i’th wasanaeth ymhob gweithred dda; yr hwn gyda’r Tad, a’r Ysbryd Glân, wyt yn byw yn oes oesoedd. Amen.

Detholiad o bregeth yr Archesgob

Y diwrnod o’r blaen, ysgrifennodd diwinydd Catholig enwog fod pobl yn newynu am ddau beth – bara a throsgynoldeb. Mae ar bawb ohonom angen cynhaliaeth i’r corff, ond mae arnom hefyd hiraeth am rywbeth y tu hwnt i ni ein hunain – ac er nad ydym efallai yn sylweddoli hynny, hiraeth am Dduw yw hwnnw, oherwydd yr ydym wedi ein llunio ar ei ddelw.
Fe fynegodd Awstin Sant y peth yn gynnil iawn: “Y mae ein calonnau’n ddiorffwys nes gorffwys yn Nuw”. Ac fe’i crynhowyd yn rhagorol mewn dwy frawddeg yng Ngweddi’r Arglwydd: “Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd” (dyna’r trosgynoldeb) a “Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol” (dyna’r bara). Dywedir mai ychydig a fwytâi Dewi Sant – dim byd on bara a llysiau.
Fe wyddom i gyd na fedr neb fyw heb fwyd. Ond nid pawb sy’n sylweddoli na fedr neb fyw’n iawn heb berthynas â Duw ychwaith, ac mae’r adeilad hwn, fel pob eglwys arall, yn ein hatgoffa o’r gwirionedd hwnnw.
Mae’n ein hatgoffa bod yna Dduw yr ydym yn credu ynddo a bod ffurfio perthynas ag ef yn hanfodol os ydym am fyw bywyd yn ei gyflawnder. Mae hefyd yn atgoffa’r gymuned gyfan bod gwerthoedd yr Efengyl yn hollbwysig mewn byd sydd mor aml yn eu hanwybyddu. Mae’n symbol o’r ffydd Gristnogol ac o bopeth y mae Cristnogion yn ei gredu. A dyfynnu Llyfr Genesis, “ Nid yw'n ddim amgen na thŷ i Dduw, a dyma borth y nefoedd".
Ysgrifennodd Jeremy Paxman, cyn-gyflwynydd Newsnight, bod: “eglwysi fel atalnodau ar y tirwedd, oherwydd mae adeiladau crefyddol y wlad nid yn unig yn dangos inni ymhle yr ydym yn ddaearyddol, maen nhw hefyd yn dangos o ba le y daethom. Yn aml iawn, nhw yw’r unig le yn y gymuned sydd â chysylltiad gweladwy â’r gorffennol. Maen nhw’n ein cysylltu ni â’n hanes.” Ac fe fyddwn i am ychwanegu eu bod nhw hefyd yn ein cysylltu â chred yn y Duw a’n creodd ni ac sy’n ein caru.
Mae eglwys yn adeilad symbolaidd, ac mae symbolau’n bwysig am eu bod yn cyfleu’r hyn yr ydym yn ein gredu. Gall pawb a ddaw i’r lle hwn weld mai lle i addoli ydyw, bod yma gymuned o Gristnogion sy’n credu bod gan yr Efengyl rywbeth i’w gynnig iddynt, ac i’w gynnig i’r byd.
Ond peidiwch ag anghofio mai chi, bobl Dduw, yw symbolau byw – sacramentau byw – gwirionedd yr Efengyl. All yr adeilad hwn ynddo’i hun ddim argyhoeddi pobl o fodolaeth Duw, a bod tosturi, cariad, llawenydd, tangnefedd a gras wrth galon bod yn ddisgybl i Iesu. Dim ond chi, y meini bywiol, yr offeiriadaeth frenhinol, chwedl Epistol Pedr, a all wneud hynny. Modd i gyrraedd diben yw’r adeilad, cymorth inni fyw’r Efengyl, nid diben ynddo’i hun. Mae Cristnogion weithiau’n anghofio hynny. Mae pen-blwydd cysegu’r eglwys nid yn unig yn gyfle inni ddiolch i Dduw am y gorffennol; mae hefyd yn gymorth inni ein cysegru’n hunain o’r newydd i’r Duw yr adeiladwyd yr eglwys er gogoniant iddo.
Mae pob Cristion, fel y dywed Paul, yn “llythyr Crist ... , llythyr ... wedi ei ysgrifennu nid ag inc, ond ag Ysbryd y Duw byw, nid ar lechau cerrig, ond ar lechau'r galon ddynol”. Rydych chi a minnau’n llysgenhadon dros Grist. All yr Efengyl ddim cael ei lledaenu heb i ni ddangos olion a gwerthoedd Iesu yn ein bywydau.
Pan fydd pobl yn edrych arnom, a ydyn nhw’n gweld yr Efengyl ar waith yn ein calonnau a’n bywydau? A gofyn y cwestiwn yn fwy amrwd, a ydym ni’n hysbysebion da i Iesu Grist? Wneith yr adeilad mo hynny trosom, ond y mae i fod i’n helpu yn y gwaith. Weithiau, wrth gwrs, gall adeiladau fod yn fwy o rwystr nag o help, am eu bod yn ddibenion ynddynt eu hunain yn lle bod yn foddion i gyrraedd diben. A dwyn cywilydd ar yr Efengyl yw hynny.
Felly, y cwestiwn i’w ofyn heddiw yw’r cwestiwn sylfaenol am ystyr bod yn ddisgybl. Beth yw hanfod bod yn Gristion? Sut y mae dilyn Iesu? Yn gryno ac yn syml, fe ddywedwn i fod Cristnogion dros Dduw fel y datguddiwyd ef yn Iesu Grist, a thros eraill, gan ddilyn esiampl Iesu Grist.........
Os ydym ni am fod yn ddilynwyr i Iesu, rhaid inni fod dros eraill, fel yr oedd ef. Yr ydym yma i wasanaethu’r gymuned – nid fel yr hoffem ni iddi fod ond fel y mae, yn ei holl amherffeithrwydd briwedig. Yr ydym yma nid er ein mwyn ein hunain, yn rhyw glwb bach cartrefol, ond i fod yn asiant Teyrnas Dduw. Fe all eich bod yn meddwl bod hynny’n dasg rhy anodd inni. Yn ei bregeth olaf, ychydig cyn ei farw, fe ddywedodd Dewi Sant hyn: “Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a’ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf fi.”
Fe fyddwn yn meddwl yn aml mai dim ond y pethau mawr sy’n cyfrif a bod y rheini y tu hwnt i’n cyrraedd. Dywedodd Thomas Carlyle:
“Rhaid i’r sawl sydd am wneud daioni wneud hynny mewn ffyrdd bach, penodol.”
Ac mae nofel George Eliot, Middlemarch, yn gorffen â’r geiriau hyn am yr arwres, Dorothea:
“Pobl gyffredin, gyda’u geiriau a’u gweithredoedd beunyddiol, sy’n paratoi bywyd sawl Dorothea. Bu effaith ei bodolaeth hi ar y bobl y cyfarfu â hwy yn bellgyrhaeddol ac anfesuradwy ac mae’r byd yn dibynnu i raddau helaeth ar bethau bychain.”
Mae pethau bychain yn bwysig. Sawl gwaith y clywsoch chi bobl yn dweud sut y bu i ryw air neu ystum a oedd yn ymddangos yn ddigon dibwys a phitw drawsnewid sefyllfa neu gyfarfod neu berthynas anodd.
Rhaid inni sylweddoli arwyddocâd arwyddion o ewyllys da – amynedd, cwrteisi, caredigrwydd, dyfalbarhad, haelioni, cariad. Oherwydd y pethau hyn, yn y diwedd – ynghyd â pheidio â dal dig at ein gilydd – yw’r pethau pwysicaf mewn bywyd.
Fel y dywed Paul: “ beth bynnag sydd yn wir, beth bynnag sydd yn anrhydeddus, beth bynnag sydd yn gyfiawn a phur ..., myfyriwch ar y pethau hyn”.
Os nad ydym dros Dduw a thros eraill, dros drosgynoldeb a bara, fydd i’r adeilad hwn ddim gwerth o gwbl. Symbol gwag fydd e, a symbol gwag drudfawr, na fydd yn cyflawni fawr ddim. Ond fe wn y byddwch chi yn sicrhau nad felly y bydd hi. Fe fyddwch yn ceisio anrhydeddu Duw a gweinidogaethu i bawb, am fod pawb wedi eu llunio ar ei ddelw. A bydd yr eglwys hon yn gymorth i chi i wneud hynny.
Iddo ef y bo'r gogoniant. Amen.