EGLWYS
DEWI SANT
CAERDYDD
  • Hafan
  • Bywyd yr Eglwys
    • Gwasanaethau >
      • Podliadau Adfent 2021
      • Podlediadau Tymor y Drindod
      • Podlediadau'r Wythnos Fawr a'r Pasg 2021
      • Podlediadau 2021
      • Podlediadau Tachwedd a Rhagfyr
      • Hen Bodlediadau Mis Medi - Hydref
      • Hen Bodlediadau Mis Awst
      • Hen Bodlediadau Mawrth - Gorffennaf
    • Myfyrwyr
    • Gŵyl Flodau
    • Yr Ysgol Sul/Den Dewi
    • Cymdeithas Nos Iau
    • Welsh Learners Coffi a Chlonc 2020
    • Y Bwletin Wythnosol
    • Pererindod 2015
  • Cerddoriaeth
    • Côr yr Eglwys
    • Yr Organ
    • Cyngherddau 2020
  • Hanes
  • Cysylltwch รข ni
    • Llogi'r Eglwys/ Hiring the Church >
      • POLISÏAU
      • Polisi Diogelu >
        • Polisi Diogelu Data
  • Cloch Dewi

Y Bwletin Wythnosol

 Gwasanaeth  Esgobaeth Llandaf + Deoniaeth Caerdydd

EGLWYS DEWI SANT
www.eglwysdewisant.org.uk

CROESO i Eglwys Dewi Sant ar yr Aelwyd
 
 12 Rhagfyr 2021
Adfent III

Mae’r Salm a’r darlleniadau ar gyfer y Sul fel y canlyn:

​Y Foreol Weddi:   
Salm 146
Philipiaid 4:4-7
Luc 3:7-18
 
Yr Hwyrol Weddi:
Salm 62
Eseia 35
Luc 1:57-66
​
YN EIN GWEDDÏAU
Cofiwn yn ein gweddïau y cleifion: Cathrin Brynach, John Hicks, Ann Wyn Jones, Nia Roberts, Gwen Thomas, ac am bawb sy’n gofalu amdanynt.
 
Gweddïwn hefyd dros bawb a fu farw yn nhangnefedd Crist, dros Magdalen Griffiths a thros bawb y cofiwn am eu marwolaeth yr adeg hon o’r flwyddyn. Dyro iddynt, O Arglwydd, orffwys tragwyddol a llewyrched goleuni gwastadol arnynt.


Cyhoeddiadau ar gyfer y Sul
​​​​GWASANAETHAU Y SUL NESAF YN YR EGLWYS
Cynhelir tri gwasanaeth y Sul nesaf gyda gweinyddiad o’r Cymun am 8.00am, gwasanaeth teuluol am 10.30am a gwasanaeth o Lithoedd a Charolau am 6.00pm.  Os ydych yn bwriadu dod i un neu fwy o’r gwasanaethau hyn a wnewch chi anfon e-bost at Marian Fairclough: faircloughmarian@gmail.com neu ffonio ar 029 2088 5151: erbyn 4.00 o’r gloch prynhawn Sadwrn os gwelwch yn dda.

HEDDIW

Cynhelir ein cinio Nadolig heddiw yng nghlwb Golff Llanisien.  Gofynnir i ni gyrraedd o 12.00pm ymlaen yn barod i fwyta am 12.30pm. 

RHESTR DARLLENWYR

Byddwn yn creu rhestr o ddarllenwyr ar gyfer ein gwasanaethau yn yr eglwys yn y flwyddyn newydd.  Os hoffech ddarllen y llithoedd, o’r ddarllenfa neu o’ch sedd, a wnewch chi roi eich enw ar y daflen yng nghefn yr eglwys neu fynnu gair â Gwynn Matthews os gwelwch yn dda.

DIWRNOD RHODD

Mae’r cynlluniau o adnewyddu toiledau’r eglwys wedi bod ar y gweill am rai blynyddoedd bellach.  Cost y gwaith yw £31, 570 + TAW.  Yr ydym eisoes wedi codi £21,000, ac mae angen i ni godi £10,000 er mwyn bwrw ymlaen â’r gwaith.  I’r diben hwn yr ydym wedi lansio diwrnod rhodd.  Mae’r manylion wedi’u cynnwys gyda cherdyn yr Adfent a’r Nadolig.  – Y Trysorydd

BANC BWYD CAERDYDD

Yr ydym yn casglu nwyddau ar gyfer y banc bwyd yn ystod mis Rhagfyr.  Mae bocs yn neuadd yr eglwys i dderbyn y nwyddau.  Gellir hefyd anfon arian yn electronig trwy ddilyn y ddolen isod:  https://localgiving.org/charity/cardifffoodbank/
Bydd y nwyddau yn mynd i’r ganolfan dosbarthu ddydd Mawrth 21 Rhagfyr.

NOSON GYMDEITHASOL DROS ZOOM

Byddwn yn cynnal noson gymdeithasol hamddenol dros Zoom nos Iau 16 Rhagfyr am 7.30pm.  Bydd yn gyfle i ni ddala lan a chael sgwrs.  Anfonwn y manylion Zoom atoch ar e-bost.  Cofiwch ddod â’ch ddewis ddiod eich hun! 

ARCHESGOB CYMRU

Etholwyd y Gwir Barchedig Andrew John, Esgob Bangor fel Archesgob nesaf Cymru.  Dymunwn bob bendith iddo wrth iddo gychwyn ar ei ddyletswyddau newydd.

COFFI A CHLONC

Cynhelir ein bore Coffi a Chlonc dros Zoom dydd Sadwrn 18 Rhagfyr am 11.00am.  Mynnwch air â Siân Eleri Thomas os hoffech dderbyn y manylion Zoom.

CAROLAU’R CILGANT

Byddwn yn cynnal gwasanaeth Carolau’r Cilgant, fel y gwnaethom llynedd, yn yr awyr agored ar dir yr Eglwys prynhawn Mercher 22 Rhagfyr am 1.00pm.  Croeso i bawb.

​GWASANAETHAU GWEDDILL MIS RHAGFYR

 
Dydd Mercher 22 Rhagfyr
10.30am  Y Cymun Bendigaid
1.00pm  Carolau’r Cilgant yn yr awyr agored
 
24 Rhagfyr  - Noswyl Nadolig/ Christmas Eve
7.00pm    Gwasanaeth Carolau hanner awr dros Zoom
11.00pm  Cymun Cyntaf y Nadolig yn yr Eglwys
 
25 Rhagfyr – Dydd Nadolig/ Christmas Day
9.30am  Y Cymun Bendigaid
 
Dydd Sul 26 Rhagfyr – Nadolig I (Gŵyl San Steffan)
10.30am  Y Foreol Weddi a Phregeth
6.00pm  Y Cymun Bendigaid
GWEDDÏAU’R SUL
Yn ein gweddïau heddiw, gofynnir inni weddïo dros:

​
  1. Eglwys Anglicanaidd Canada
  2. Plwyf Penarth a Llandochau, y Parchedig Mark Jones (Arweinydd), y Parchedig Alison Reeves (Curad)
​​​
GWYLIAU A DARLLENIADAU
​

Dydd Llun 13 Rhagfyr: Lleucu (304), Merthyr
Numeri 24:2-7, 15-17a; Salm 25; Mathew 21:23-27
Gweddïwn dros: Esgobaeth Ljumu – Eglwys Nigeria, Talaith Lokoja
Ardal Gweinidogaeth De Morganwg, arweinydd i’w benodi, Howard Rees (Cadeirydd Lleyg)
Dydd Mawrth 14 Rhagfyr: Ioan y Groes (1591), Offeiriad, Bardd ac Athro’r Ffydd
Seffaneia 3:1,2, 9-13; Salm 34; Mathew 21:28-32
Gweddïwn dros: Esgobaeth Ikara, Eglwys Nigheria, Talaith Kaduna
Plwyf Penmarc gyda Phorthceri a’r Rhws, y Parchedig Melanie Prince (Ficer)
Dydd Mercher 15 Rhagfyr:  
Eseia 45:5-8; 18-25; Salm 85; Luc 7:19-23
Gweddïwn dros: Esgobaeth Ikeduru, Talaith Owerri
Caplaniaid Carchardai, Carchardy Caerdydd, y Parchedig Nicholas Sandford, Carchardy’r Parc, y Parchedig Dawn Tilt
Dydd Iau 16 Rhagfyr:
Eseia 54:1-10; Salm 30; Luc 7:24-30
Gweddïwn dros: Esgobaeth Ikka, Eglwys Nigeria
Plwyf Saint Andras a Llanfihangel-y-pwll, y Parchedig Andrew James (Ficer)
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Saint Andras, y pennaeth, Genevieve Hallett, y staff a’r disgyblion
Dydd Gwener 17 Rhagfyr: O Ddoethineb!
Genesis 49:2, 8-10; Salm 72; Mathew 1:1-7, 17
Gweddïwn dros: Esgobaeth Ikwerre, Eglwys Nigeria
Plwyf y Sili, Offeiriad i’w benodi
Dydd Sadwrn 18 Rhagfyr: O Adonai!  
Jeremeia 23:5-8; Salm 72:11-20; Mathew 1:18-25
Gweddïwn dros: Esgobaeth Ikwo – Eglwys Nigeria
Plwyf Gwenfo gyda Llwyneliddon, offeiriad i’w benodi
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru, Gwenfo, y
pennaeth, Nicola Starke, y staff a’r disgyblion

 
 
 
 
 
 
 

Trefn gwasanaeth syml ar gyfer y gwasanaeth boreol
Thema:  Meiddio byw’n wahanol
 
Iesu Grist yw goleuni’r byd:
goleuni na all unrhyw dywyllwch ei drechu.
 
O Dduw tragwyddol,
wrth fod y tywyllwch yn nesáu
a’r nos yn oedi’n hir
goleuwn gannwyll
i wasgaru tywyllwch ein calonnau
ac erlid ymaith gysgodion ein meddyliau
fel y bo iddo ef y soniodd Ioan Fedyddiwr amdano
ganfod llwybr disglair a chlir
a’n cael yn barod ac yn fodlon i’w groesawu ef sydd yn Oleuni’r byd,
oherwydd y mae ef yn Arglwydd byth bythoedd. Amen.
 
Emyn
 
Emyn 1
Goleuni y byd
a greodd y wawr,
a’r sêr sydd mewn oriel
o’i wyrthiol waith mawr.
Pob planed sy’n troi,
Trwy’i air maent yn bod
i ddangos ei fawredd
a chanu ei glod.
 
Cytgan
Dewch, dewch bobl y byd,
gwelwch oleuni ein Duw.
Clod, clod, rhowch iddo ef,
credwch yn wir, credwch drwy ffydd
yn ei drugaredd a’i gariad.
 
Goleuni y byd
ddisgleiriodd mewn dyn,
fe droediodd fynyddoedd
a greodd ei hun.
Fel gwas y daeth ef,
i’r byd daeth fel Oen,
i rannu ein gofid
a phrofi ein poen.
 
Cytgan
Dewch, dewch bobl y byd,
gwelwch oleuni ein Duw.
Clod, clod, rhowch iddo ef,
credwch yn wir, credwch drwy ffydd
yn ei drugaredd a’i gariad.
 
Goleuni i’r byd,
Cyfiawnder i bawb,
oedd neges yr Arglwydd,
gwaredwr y tlawd.
Ar groes hoeliwyd ef,
yn felltith fe’i gwnaed,
i achub ei bobl
tywalltodd ei waed.
 
Cytgan
Dewch, dewch bobl y byd,
gwelwch oleuni ein Duw.
Clod, clod, rhowch iddo ef,
credwch yn wir, credwch drwy ffydd
yn ei drugaredd a’i gariad.
 
Goleuni y byd,
disgleirio mae’n awr,
gan gynnig maddeuant
i bobl y llawr.
Derbyniwch yn wir
Ei roddion hael ef;
Dewch mas o’r tywyllwch
At orsedd y nef.
 
 Cytgan
Dewch, dewch bobl y byd,
gwelwch oleuni ein Duw.
Clod, clod, rhowch iddo ef,
credwch yn wir, credwch drwy ffydd
yn ei drugaredd a’i gariad.
Stuart Townend – Cyf. Gwenda Jenkins
Canu Clod 196
 
Paratowch yn yr anialwch ffordd yr Arglwydd, unionwch yn y diffeithwch briffordd i’n Duw ni.  Esiea 40:3
 
Duw yw ein hiachawdwriaeth,
ymddiriedwn ynot a pheidio ag ofni.


Yr Arglwydd yw ein nerth a’n grym,
diolchwn i’r Arglwydd a galw ar ei enw.


Cyhoeddwn fod ei enw’n oruchaf.
Canwn foliant mewn llawenydd.

Canys mae ein Duw yn fawr yn ein plith.
Seiliedig ar Eseia 12
 
Gan fod Duw yn Dduw Sanctaidd gadewch i ni yn gyntaf gyffesu ein pechodau
A cheisio ei faddeuant.
 
Y Gyffes
Dduw graslon,
yn ymwybodol nad ydym yn cael popeth yn iawn bob amser:
gofynnwn am dy faddeuant.


Yn ymwybodol ein bod yn fodlon pan allem fod yn fentrus:
gofynnwn am dy ddewrder.


Yn ymwybodol nad ydym yn ei chael yn hawdd newid:
gofynnwn am dy ras.


Ffurfia ac ailffurfia ni, ddydd ar ôl dydd,
fel dy ddisgyblion ac er dy ogoniant,

trwy Iesu Grist ein Harglwydd.  Amen.
 
Yr Hollalluog Dduw,
sy’n maddau i bawb sy’n wir edifeiriol,
a drugarhao wrthym, a’n rhyddhau o bechod,
ein cadarnhau mewn daioni
a’n cadw yn y bywyd tragwyddol;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd.  Amen.
 
Y Colect – Adfent III
O Arglwydd Iesu Grist,
a anfonaist dy genhadwr ar dy ddyfodiad cyntaf
i baratoi dy ffordd o’th flaen,
pâr i weinidogion a goruchwylwyr dy ddirgeleddau
yn yr un modd baratoi ac arloesi dy ffordd
trwy droi calonnau’r anufudd
i ddoethineb y cyfiawn,
fel, ar dy ail ddyfodiad i farnu’r byd,
y ceir ni’n bobl gymeradwy yn dy olwg di;
oherwydd yr wyt yn fyw ac yn teyrnasu gyda’r Tad
a’r Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth.  Amen.
 
Darlleniad: Philipiaid 4. 4-7 
Llawenhewch yn yr Arglwydd bob amser; fe'i dywedaf eto, llawenhewch. Bydded eich hynawsedd yn hysbys i bob dyn. Y mae'r Arglwydd yn agos. Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil, ynghyd â diolchgarwch. A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu.
 
Emyn
‘Rwyf yn codi fy mhobol i foli,
‘Rwyf yn codi fy mhobol yn rym;
Fe symudant drwy’r wlad yn yr Ysbryd,
Gogoneddant fy enw yn llawn.
 
Gwna dy Eglwys yn un gref, Iôr,
Ein calonnau una nawr:
Gwna ni’n un, Iôr, yn dy gorff, Iôr,
Doed dy deyrnas ar y llawr.
Dave Richards  Cyf.  Catrin Alun
CFf 628
 
Gwrandewch Efengyl Crist yn ôl Sant Luc
Gogoniant i ti, O Arglwydd
 
Dywedai Ioan wrth y tyrfaoedd oedd yn dod allan i'w bedyddio ganddo: "Chwi epil gwiberod, pwy a'ch rhybuddiodd i ffoi rhag y digofaint sydd i ddod? Dygwch ffrwythau gan hynny a fydd yn deilwng o'ch edifeirwch. Peidiwch â dechrau dweud wrthych eich hunain, 'Y mae gennym Abraham yn dad', oherwydd rwy'n dweud wrthych y gall Duw godi plant i Abraham o'r cerrig hyn. Ac y mae'r fwyell eisoes wrth wraidd y coed; felly, y mae pob coeden nad yw'n dwyn ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a'i bwrw i'r tân."
Gofynnai'r tyrfaoedd iddo, "Beth a wnawn ni felly?" Atebai yntau, "Rhaid i'r sawl sydd ganddo ddau grys eu rhannu ag unrhyw un sydd heb grys, a rhaid i'r sawl sydd ganddo fwyd wneud yr un peth." Daeth casglwyr trethi hefyd i'w bedyddio, ac meddent wrtho, "Athro, beth a wnawn ni?" Meddai yntau wrthynt, "Peidiwch â mynnu dim mwy na'r swm a bennwyd ichwi." Byddai dynion ar wasanaeth milwrol hefyd yn gofyn iddo, "Beth a wnawn ninnau?" Meddai wrthynt, "Peidiwch ag ysbeilio neb trwy drais neu gamgyhuddiad, ond byddwch fodlon ar eich cyflog."
Gan fod y bobl yn disgwyl, a phawb yn ystyried yn ei galon tybed ai Ioan oedd y Meseia, dywedodd ef wrth bawb: "Yr wyf fi yn eich bedyddio â dŵr; ond y mae un cryfach na mi yn dod. Nid wyf fi'n deilwng i ddatod carrai ei sandalau ef. Bydd ef yn eich bedyddio â'r Ysbryd Glân ac â thân. Y mae ei wyntyll yn barod yn ei law, i nithio'n lân yr hyn a ddyrnwyd, ac i gasglu'r grawn i'w ysgubor. Ond am yr us, bydd yn llosgi hwnnw â thân anniffoddadwy." Fel hyn, a chyda llawer anogaeth arall hefyd, yr oedd yn cyhoeddi'r newydd da i'r bobl.
 
Dyma Efengyl yr Arglwydd.
Moliant i ti, O Grist.
 
Y Bregeth
“Dygwch ffrwythau gan hynny a fydd yn deilwng o’ch edifeirwch” Luc 3:8
Canolbwyntiwn heddiw ar un o gymeriadau mawr yr Adfent: – mawr ei neges, mawr ei ddylanwad a mawr ei waith wrth baratoi’r ffordd ar gyfer dyfodiad Iesu – sef Ioan Fedyddiwr.  Mae’n gawr o gymeriad yn yr Adfent, ac yn gawr o gymeriad ar ddechrau’r efengylau.  Ond er ei fawredd ymhob ystyr y gair, mae’n rhaid i ni gyfaddef bod yna rhywbeth amdano sy’n gwneud i ni wingo ychydig ac sy’n peri i ni symud ychydig yn lletchwith yn ein corau.  Wrth i ni brysur baratoi ar gyfer y Nadolig mae ein meddyliau yn naturiol yn troi at yr addurniadau a’r cardiau, prynu anrhegion a meddwl am y cinio Nadolig a cheisio ennyn ynom ein hunain rhyw ymdeimlad Nadoligaidd. Wrth i ni nesáu at y Nadolig dechreuwn ysu am ganu carolau, meddwl am neges yr angylion, am y bugeiliaid yn rhuthro lawr y llethrau i’r stabl, a’r ddelwedd ddedwydd o Mair a Joseff a’r baban yn y crud.  Ond na, nid ar y trydydd Sul yn yr Adfent; yn hytrach, fe gawn Ioan Fedyddiwr a’i neges yn tarfu ar y cyfan ac yn ein hysgwyd â’i alwad yn ein galw ni i edifarhau ac i wellhau ein buchedd. 
Roedd Ioan Fedyddiwr yn ddi-flewyn-ar-dafod.  Fe welwn ni hyn ar ddechrau ein darlleniad o’r efengyl heddiw wrth i Ioan gyfarch y dorf a oedd wedi dod allan i wrando arno â’r geiriau– “Chwi epil gwiberod, pwy a’ch rhybuddiodd i ffoi rhag y digofaint sydd i ddod?”  Nid y geiriau mwyaf croesawus na chysurus.  Ond yr oedd Ioan yn ddi-ofn ac yn barod i ddweud yr hyn a welodd.  Wrth gyfarch ei genhedlaeth fel “epil gwiberod”, yr oedd Ioan yn cyfeirio at ragrith, twyll, y drwg moesol a’r llygredigaeth oedd yn llethu ei gymdeithas.  Yr oedd yn gweld y gwenwyn a oedd yn llygru holl agwedd ac ymwneud unigolyn tuag â’i gilydd.  Sylweddolai Ioan, os oedd cymdeithas am newid, fod yn rhaid enw’r pechodau oedd yn ei llethu.  
Fe allwn ni ofyn pam yr ydym yn canolbwyntio ar gymeriad mor fawr a heriol fel Ioan Fedyddiwr ynghanol yr Adfent ac mor agos at y Nadolig?  Wel, tymor y paratoi yw’r Adfent, tymor sy’n gofyn i ni baratoi ein hunain i dderbyn o’r newydd ddyfodiad Iesu i’r byd a’n bywydau, ac ni allwn wneud hynny, nes ein bod ni yn gyntaf yn gweld yr hyn sydd angen arnom i ddiwygio ein bywydau ein hunain.  Ynghlwm â galwad Ioan Fedyddiwr i edifarhau mae’r alwad i ddwyn ffrwyth edifeirwch yn ein bywydau; hynny yw, y newidiadau bychain yn ein hagweddau a’n hymddygiad sydd yn ein tywys ni ar hyd trywydd gwahanol, trywydd bywyd, trywydd sydd yn ein harwain at Iesu Grist. Beth oedd gwaith Ioan Fedyddiwr yn yr efengyl ond i baratoi eraill a’u cyfeirio hwy at Iesu y Meseia?  Pan oedd pobl yn ystyried ai Ioan oedd y Meseia – ei ymateb yn syth oedd tynnu eu sylw oddi arno ef ei hun a’u cyfeirio at yr un cryfach a ddeuai ar ei ôl.  “Yr wyf fi, meddai Ioan, yn eich bedyddio â dŵr; ond y mae un cryfach na mi yn dod. Nid wyf fi’n deilwng i ddatod carrai ei sandalau ef”. 
Ond beth yw ystyr “ffrwyth edifeirwch”? Beth oedd Ioan Fedyddiwr yn ei olygu pan ddywedodd wrth y tyrfaoedd, “Dygwch ffrwythau gan hynny a fydd yn deilwng o’ch edifeirwch”?  Dwi’n credu bod Ioan yn gofyn i ni ‘feiddio bod yn wahanol’, gwahanol yn ein hagweddau tuag at eraill, gwahanol yn ein hymddygiad, gwahanol yn ein byw beunyddiol.  Ystyriwch yr ystod o bobl a ddaeth at Ioan ar lannau’r Iorddonen a gofyn iddo, “Beth a wnawn ni felly?”  Sut allwn ni ddwyn ffrwyth edifeirwch yn ein bywydau?  Ateb Ioan yn syml oedd gofyn iddyn nhw ganolbwyntio yn gyntaf ar yr ymarferol, ar y pethau y gallent eu gwneud yn weddol hawdd.  Dywedodd wrth y tyrfaoedd:  “Rhaid i’r sawl sydd ganddo ddau grys eu rhannau ag unrhyw un sydd heb grys, a rhaid i’w sawl sydd ganddo fwyd wneud yr un peth”.  Y mae ein gallu a’n parodrwydd i rannu y da sydd gennym yn dod o’n gallu i gydymdeimlo ag anghenion eraill ac ymateb iddynt, a pha angen sydd yn fwy sylfaenol i gynnal bywyd dyn na bwyd a dillad?  Wrth gwrs, mae rhannu, yn enwedig rhannu y pethau sylfaenol, angenrheidiol yn ffrwyno yr elfen hunanol honno sy’n perthyn i’r natur ddynol.  Yn y weithred o rannu, yr ydym yn dangos gofal a chariad ymarferol tuag at eraill wrth i ni osod eu hanghenion o flaen ein hanghenion ein hunain.  Y mae Ioan yn ein galw ni i feiddio a bod yn wahanol, trwy osod eraill yn gyntaf.
Yn ail, fe welwn ni y casglwyr trethi yn dod at Ioan a gofyn iddo yn yr un modd, “Beth a wnawn ninnau?”  Roedd gan gasglwyr trethi yng nghyfnod Iesu enw drwg, roeddent yn cael eu hystyried fel pobl digon anonest, yn cymryd mantais o’u safle i wneud elw da iddynt eu hunain trwy gynyddu’r dreth yn ôl eu dymuniad.  Anodd iawn oedd i unrhywun ddadlau â chasglwr trethi ynglŷn â’r dreth yr oeddent yn gofyn amdani.   Roedd hwn yn arferiad a oedd yn cael ei ystyried yn hollol dderbyniol gan yr awdurdodau Rhufeinig.  Ond gofynnodd Ioan Fedyddiwr i’r casglwyr trethi i feiddio â bod yn wahanol, i beidio â mynnu mwy na’r swm a bennwyd ganddynt.  Buasai hyn, wrth reswm, wedi golygu tipyn o aberth i’r casglwyr trethi, a cholled yn eu hincwm; ond dyna’r pris am fyw a  gweithredu’n onest.  I’r casglwyr trethi, roedd meiddio â byw yn wahanol yn golygu gosod gonestrwydd o flaen elw, ac y mae ffrwyth edifeirwch yn gofyn i ni fyw bywyd o wirionedd ac nid hunan-les.
Ac yna yn drydydd, fe welwn ni grŵp arall o bobl yn dod at Ioan, y tro hwn dynion ar wasanaeth milwrol ac yn gofyn iddo: “Beth a wnawn ni?”.  Dyma grŵp o bobl oedd mwy na thebyg wedi cael eu consgriptio i ymuno â’r fyddin Rhufeinig a’u gwaith oedd cadw heddwch beth bynnag y gost.  Ni ddywedodd Ioan wrthynt am adael y fyddin ar unwaith, yn hytrach gofynnodd iddynt feiddio â bod yn wahanol, trwy fod yn egwyddorol yn eu gweithrediadau; i beidio a defnyddio eu safle i wneud bygythiadau treisgar er mwyn codi braw ac ofn ar eraill, ond yn hytrach, i gyflawni eu dyletswyddau yn heddychlon ac yn gyfreithlon.  I’r milwyr hyn roedd meiddio â byw yn wahanol yn golygu gweld ym mhob un y ddynoliaeth a oedd yn gyffredin i bawb, a pharchu’r ddynoliaeth honno.  Y mae ffrwyth edifeirwch yn gofyn i ni fyw’n heddychlon, gan barchu dynoliaeth ein gilydd fel plant Duw.
Wrth gwrs, nid yw meiddio â byw yn wahanol yn hawdd!  Cawn ein cyflyru gan ddisgwyliadau cymdeithas, neu bwysau oddi wrth ein cyfoedion ac amgylchiadau, neu’r awydd i fynd gyda’r llif oherwydd bod hynny’n haws o lawer na cheisio nofio yn ei erbyn.  Dyna un o’r rhesymau pam ei bod hi’n bwysig ein bod yn talu sylw i Ioan Fedyddiwr a’i neges yn yr adeg hon o’r flwyddyn.  Roedd gan Ioan Fedyddiwr y gwroldeb i feiddio â bod yn wahanol, ac yn fwy na hynny, yr oedd yn barod i ofyn i eraill feiddio â bod yn wahanol hefyd.  Y mae edifarhau yn gofyn i ni feiddio â bod yn wahanol, i feiddio i fod y gorau y gallwn ni fod, i fod yr hyn y mae Duw yn ein galw i ni fod.  Meiddio â bod yn wahanol - dyna yw ffrwyth ein hedifeirwch.  Trwy feiddio â gosod cariad yn sail i’n bywydau a bod yn hael wrth i ni rannu, trwy feiddio gosod gonestrwydd a gwirionedd yn egwyddorion ein hymwneud ag eraill, a thrwy feiddio byw yn heddychlon gan barchu’r ddynoliaeth sydd yn perthyn i bawb y cyfarfyddwn â hwy yr ydym yn dwyn ffrwyth edifeirwch.  Trwy feiddio â gwneud y pethau hyn, yr ydym yn meiddio byw fel disgyblion Iesu Grist.  Amen.
CREDWN
Yr wyf yn credu ac yn ymddiried
yn Nuw Dad, a greodd bopeth sydd.
 
Yr wyf yn credu ac yn ymddiried
yn ei Fab Iesu Grist, a brynodd ddynolryw.
Yr wyf yn credu ac yn ymddiried
yn ei Ysbryd Glân, sy’n rhoi bywyd i bobl Dduw.
 
Yr wyf yn credu ac yn ymddiried yn un Duw, Dad, Mab ac Ysbryd Glân.  Amen.
 
Emyn
 
O’r nef y daeth, Fab di-nam,
I’r byd yn dlawd heb feddu dim,
I weini’n fwyn ar y gwan,
Ei fywyd roes i ni gael byw.
 
Hwn yw ein Duw, y Brenin tlawd,
Fe’n geilw oll i’w ddilyn ef,
I fyw bob dydd fel pe’n anrheg wiw o’i law:
Fe roddwn fawl i’r Brenin tlawd.
 
Ei ddagrau’n lli yn yr ardd,
Fe meichiau trwm gymerodd ef:
Ei galon fawr oedd yn drist,
“D’ewyllys di fo’n ben,” medd ef.
 
Gwêl ddwylo briw, gwêl ei draed,
Ei greithiau’n brawf o’i aberth drud;
Y dyner law leddfai boen,
A rwygwyd gan yr hoelion llym.
 
Yn isel fryd gweini wnawn
A’i ddewis ef yn Arglwydd pawb:
Wrth estyn llaw at fy mrawd
Cydnabod wnawn ein Brenin tlawd.
Graham Kendrick cyf. Siôn Aled
CFf 276
 
Y Gweddïau
 
Gweddïwn dros y rhai sy’n byw yng nghanol rhyfel, mewn gwersylloedd ffoaduriaid,
mewn blychau cardbord,
a galwn arnat ti, Dduw heddwch:
digon yw digon.


Gweddïwn dros blant sy’n mynd i gysgu’n llwglyd,
sy’n deffro’n ofnus, sy’n byw heb obaith,
a galwn arnat ti, Dduw heddwch:
digon yw digon.


Gweddïwn dros anifeiliaid wedi eu hela, eu caethiwo a’u lladd,
a galwn arnat ti, Dduw heddwch:
digon yw digon.


Gweddïwn dros dy fyd ble mae’n ddifater,
yn hunanfodlon, yn bechadurus,
a galwn arnat ti, Dduw heddwch:
digon yw digon.


Gweddïwn dros y rhai sydd wedi colli eu ffordd,
y rhai sy’n chwilio,
y rhai sy’n gofyn ‘Beth allwn wneud?’
a galwn arnat ti, Dduw heddwch:
digon yw digon.


Dduw grasol,
tyrd â nhw, a ninnau, a’r cread cyfan yn ôl atat ti,
a chroesawa ni o’r newydd yn dy Fab Iesu Grist, ein Gwaredwr.
Amen.
 
Gweddïwn gyda’n gilydd.
 
Nefol Dad,
diolchwn i ti am ein cartrefi a’n teuluoedd,
am fwyd a dillad
ac am bob hapusrwydd y gall rhieni a phlant ei rannu.
Gofynnwn
am i’th gariad ein hamgylchynu,
a’th ofal ein hamddiffyn
ac am gael adnabod dy dangnefedd
bob amser.
Arglwydd yn dy drugaredd
derbyn y  gweddïau hyn;
er mwyn Dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd.  Amen.
 
Fel y dysgodd ein Hiachawdwr ni, gweddïwn yn hyderus:
 
Ein Tad,
yr hwn wyt yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw,
deled dy deyrnas,
gwneler dy ewyllys;
megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol
a maddau i ni ein dyledion,
fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth;
eithr gwared ni rhag drwg.
 
Canys eiddot ti yw’r deyrnas,
a’r gallu, a’r gogoniant,
yn oes oesoedd.  Amen.
 
Emyn
 
I ti dymunwn fyw, O Iesu da,
Ar lwybrau esmwyth oes, dan heulwen ha’:
Neu os daw niwl i guddio’r wybren las
Na ad i’m hofnau atal gwaith dy ras.
 
Yn fwy bob dydd i ti dymunwn fyw
Gan wneud dy waith yn well, gwaith engyl yw;
A gad i mi, wrth ddringo’u hysgol hwy,
Gael beunydd weld o’th degwch lawer mwy.
 
Os rhaid ymwadu, dyro ras i mi
Rhag cadw dim yn ôl oddi wrthyt ti:
Na chaed nac aur na chlod na swyn y byd
Dy atal, Iesu da, i lenwi ‘mryd.

​Ni allaf rhoddi fel y rhoddaist im;
‘rwy’n gweld, yng ngolau’r groes, fy ngorau’n ddim:
Ond at y groes, er hynny, deuaf fi,
I’m rhoi fy hunan i’th ewyllys di.
 
Fy hunan oll i ti, O Iesu da,
Er dyfod cwmwl du neu heulwen ha’;
O fore oes hyd nes i’r cyfnos ddod
Rho im y fraint o fyw bob dydd i’th glod.
Elfed 1860 – 1953
CFf 757


 
Mae hawlfraint Y Llyfr Gweddi Gyffredin i’w arfer yn yr Eglwys yng Nghymru a phob gwasanaeth sydd ynddo yn eiddo Gwasg yr Eglwys yng Nghymru 1984. Neu Y Cymun Bendigaid 2004
Roots a Chaneuon Ffydd.
Hawlfraint Gwasg yr Eglwys yng Nghymru 1984.
Testun allan o Gair yr Arglwydd 2011 – yr Eglwys yng Nghymru Hawlfraint Cyhoeddiadau’r Eglwys yng Nghymru 2011.
Colectau a Gweddïau Ôl-Gymun o’r llyfr Y Calendr Newydd a’r Colectau.  Hawlfraint Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru 2003
Emynau – Caneuon Ffydd, Emynau’r Llan
 

Ein Stori Lawen
Yr ydym yn Eglwys Blwyf Gymraeg yng nghanol y ddinas ac yr ydym wedi bod yn rhan o fywyd, bwrlwm a thwf Caerdydd am dros ganrif a hanner. 
  • Mynegwn ein ffydd Gristnogol yn llawen trwy ein haddoliad, ein gwasanaeth a’n cymdeithas mewn awyrgylch sy’n groesawgar, gofalgar a theuluol ei naws. 
  • Yr ydym yn meithrin ein plant a’n pobl ifanc trwy weithgareddau’r Ysgol Sul a’r gwasanaethau teuluol, a thrwy ein gwasanaethau litwrgaidd, y geiriau a’r gerddoriaeth cawn ein hysbrydoli i addoli a gwasanaethu’r Duw byw. 
  • Yr ydym yn falch o annog a chefnogi dysgwyr y Gymraeg. 
  • Mae croeso ac mae lle yn yr eglwys hon i bawb sydd am ystyried neu ailgydio yn eu ffydd neu sy’n chwilio am gartref ysbrydol.
 
Our Joyful Story
We are a Parish Church in the city Centre and we have been a part of the life, bustle and growth of Cardiff for over 150 years.  We welcome visitors of all nationalities and denominations to Eglwys Dewi Sant. Please make yourself known to us and do sign the visitors’ book. If you are learning Welsh, you will find the bilingual service books very useful. You may also wish to practise your Welsh after the service over coffee in the Church Hall.
Os am ragor o wybodaeth am Eglwys Dewi Sant:
Ficer/Vicar: Y Parchedig Dyfrig C. Lloyd
Ffôn: 029 2056 6001
E-bost: dyfriglloyd@hotmail.com
Y Parchedig Rhian Linecar (Offeiriad)
Ffôn: 01446 760 007
E-bost: rlinecar@gmail.com
Y Wardeniaid/Churchwardens:
Wyn Mears - Ffôn: 029 20758726
E-bost: wyn@wynmears.com
Gwynn Matthews – Ffôn: 029 2089 1802
E-bost: m.g.derwendeg@gmail.com
Cyfarwyddwr Cerdd:
Ieuan Jones, B. Mus - Ffôn:  074 29 012781
E-bost: ieuanjones@hotmail.co.uk
Trysorydd:
Rhys Jones - Ffôn: 029 2056 3834 neu 077 94 897328
E-bost:  rhys.helen.jones@btinternet.com
Ysgrifennydd Cymorth Rhodd:
Graham Carson - Ffôn: 029 2069 1860
Ysgrifennydd Cyngor Plwyf:
Marian Fairclough - Ffôn: 029 2088 5151
E-bost: faircloughmarian@gmail.com  


HYSBYSFWRDD YN Y NEUADD
Mae nifer o eitemau newydd yn cael eu gosod ar
yr hysbysfwrdd yn wythnosol. Felly, rydym yn annog pawb i gymryd amser i edrych ar yr hysbysfwrdd yn rheolaidd.





 


 


 



 

 

 

Powered by Create your own unique website with customizable templates.