Gwasanaethau
2021 Cynhelir Gwasanaeth yn Eglwys Dewi Sant am 9.00am Darlledir dau bodlediad y Sul: y Gwasanaeth Boreol a'r Hwyrol Weddi. Gwasanaeth Boreol: Garawys III
Yr Hwyrol Weddi: Garawys II (Gŵyl Ddewi)
|
Garawys III
Yr oedd Pasg yr Iddewon yn ymyl, ac aeth Iesu i fyny i Jerwsalem. A chafodd yn y deml y rhai oedd yn gwerthu ychen a defaid a cholomennod, a'r cyfnewidwyr arian wrth eu byrddau. Gwnaeth chwip o gordenni, a gyrrodd hwy oll allan o'r deml, y defaid a'r ychen hefyd. Taflodd arian mân y cyfnewidwyr ar chwâl, a bwrw eu byrddau wyneb i waered. Ac meddai wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, "Ewch â'r rhain oddi yma. Peidiwch â gwneud tŷ fy Nhad i yn dŷ masnach." Cofiodd ei ddisgyblion eiriau'r Ysgrythur: "Bydd sêl dros dy dŷ di yn fy ysu." Yna heriodd yr Iddewon ef a gofyn, "Pa arwydd sydd gennyt i'w ddangos i ni, yn awdurdod dros wneud y pethau hyn?" Atebodd Iesu hwy: "Dinistriwch y deml hon, ac mewn tridiau fe'i codaf hi." Dywedodd yr Iddewon, "Chwe blynedd a deugain y bu'r deml hon yn cael ei hadeiladu, ac a wyt ti'n mynd i'w chodi mewn tridiau?" Ond sôn yr oedd ef am deml ei gorff. Felly, wedi iddo gael ei gyfodi oddi wrth y meirw, cofiodd ei ddisgyblion iddo ddweud hyn, a chredasant yr Ysgrythur, a'r gair yr oedd Iesu wedi ei lefaru. (Ioan 2:13-22)
Pechadur wyf, O Arglwydd,
Sy’n curo wrth dy ddôr; Erioed mae dy drugaredd Diddiwedd yn ystôr; Er iti faddau neiau Rifedi’r tywod mân, Gwn fod dy hen drugaredd Lawn cymaint ag o’r blaen. Dy hen addewid rasol A gadwodd rif y gwlith O ddynion wedi’u colli, A gân amdani byth; Er cael eu mynych glwyfo Gan bechod is y nen, Iacheir eu clwyfau mawrion  dail y bywiol bren. Gwasgara’r tew gymylau Oddi yma i dŷ fy Nhad; Datguddia imi beunydd Yr iachawdwriaeth rad; A dywed air dy hunan Wrth f’enaid clwyfus trist Dy fod yn maddau ‘meiau Yn haeddiant Iesu Grist. Morgan Rhys Emynau’r Llan 71 Colect Garawys III
Hollalluog Dduw, nad aeth dy Fab anwylaf i fyny i lawenydd cyn iddo yn gyntaf ddioddef poen, na mynd i mewn i’r gogoniant cyn iddo gael ei groeshoelio: caniatâ yn drugarog i ni, gan gerdded ffordd y groes, ganfod nad yw’n ddim arall ond ffordd bywyd a thangnefedd; trwy Iesu Grist ein Harglwydd sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth. Ame |