EGLWYS
DEWI SANT
CAERDYDD
  • Hafan
  • Bywyd yr Eglwys
    • Myfyrwyr
    • Gŵyl Flodau
    • Gwasanaethau
    • Yr Ysgol Sul/Den Dewi
    • Cymdeithas Nos Iau
    • Welsh Learners Coffi a Chlonc 2019
    • Y Bwletin Wythnosol
    • Pererindod 2015
  • Cerddoriaeth
    • Côr yr Eglwys
    • Yr Organ
    • Cyngherddau 2019
  • Hanes
  • Cysylltwch â ni
    • Llogi'r Eglwys/ Hiring the Church
  • Cloch Dewi

Molwch yr Arglwydd â thympan ac â dawns:
molwch ef â thannau ac ag organ.
Molwch ef â symbalau soniarus:
molwch ef â symbalau llafar.
Pob perchen anadl:
molianned yr Arglwydd; molwch yr Arglwydd.
Salm 150:4-6

Cerddoriaeth yn ein Gwasanaethau

Mae Eglwys Dewi Sant yn eglwys sy’n gosod pwyslais ar addoliad gweddus gan ddilyn traddodiadau cerddorol a litwrgaidd gorau yr Eglwys yng Nghymru. 

Yn ein prif wasanaethau, yn ogystal â chanu emynau, yr ydym yn canu’r salmau ac yn defnyddio gosodiadau cerddorol o’r Cymun Bendigaid a’r Foreol Weddi.

Arweinir y canu cynulleidfaol mewn pedwar llais gan y côr sydd hefyd yn aml yn canu anthem yn ystod y gwasanaethau hyn ar y Sul ac ar uchel wyliau’r flwyddyn eglwysig.  Yn gyfeiliant i’r canu mae organ “Y Tad Willis”, sydd wedi cael ei disgrifio fel yr “organ blwyf orau” yng Nghymru. 


Picture
Picture

Holl ddiben y gerddoriaeth yn ein gwasanaethau yw ein cynorthwyo i godi ein calonnau a’n meddyliau at Dduw mewn mawl, a chael ein hysbrydoli a’n hysgogi i’w wasanaethu yn well yn ein bywyd beunyddiol. 


Cyngherddau


Oherwydd ei lleoliad yng nghanol y ddinas, yr organ odidog ac acwstig rhagorol yr adeilad, mae’r eglwys yn fan boblogaidd i gynnal datganiadau organ a chyngherddau. 

Yn ystod 2013 recordiodd Côr Merched Canna a Chôr Meibion Taf eu cryno ddisgiau diweddara’ yma .

Defnyddir y neuadd a’r eglwys gan Gôr Philharmonic Caerdydd a Chôr y Gleision ar gyfer eu hymarferion wythnosol.       
  

Rhestr o gyngherddau a gynhelir yn yr Eglwys - 2014
Powered by Create your own unique website with customizable templates.